Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
13 Medi 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13484
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 1 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Atebwyd cwestiwn 9 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Dechreuodd yr eitem am 14.23
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
Dechreuodd yr eitem am 15.16
Gofynnwyd y 3 chwestiwn.
4 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.27
Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ddiogelwch yr ystâd iechyd yn dilyn y newyddion bod digwyddiad mawr wedi ei ddatgan yn Ysbyty Llwynhelyg ym mis Awst?
Atebwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gyllideb 2023-24 Llywodraeth Cymru, yng ngoleuni sylwebaeth barhaus gan Weinidogion yn y cyfryngau dros yr haf?
Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw fod pob un o saith bwrdd iechyd Cymru mewn statws uwchgyfeirio?
5 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 16.04
Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am - Teyrnged i Gareth Miles, sylfaenydd Cymdeithas yr Iaith.
Gwnaeth Sioned Williams ddatganiad am - Mis Dal y Bws (Medi).
6 Dadl ar ddeiseb P-06-1337 - Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol
Dechreuodd yr eitem am 16.07
NDM8345 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol’ a gasglodd 10,539 o lofnodion.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Anghynaliadwy: dyled o ganlyniad i gostau byw cynyddol
Dechreuodd yr eitem am 16.49
NDM8346 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Anghynaliadwy: dyled o ganlyniad i gostau byw cynyddol” a osodwyd ar 23 Mai 2023.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Medi 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022
Dechreuodd yr eitem am 17.28
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8347 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022, sydd i ddod i rym ar 17 Medi 2023.
Dogfen ategol - Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
38 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022.
2. Yn nodi bod gostwng terfynau cyflymder lle mae pobl a cherbydau yn rhyngweithio fwyaf yn gallu achub bywydau.
3. Yn nodi bod eithriadau yn bosibl mewn lleoliadau y bernir eu bod yn briodol gan awdurdodau lleol.
4. Yn nodi pwysigrwydd cefnogaeth gymunedol i unrhyw newidiadau i'r terfyn cyflymder er mwyn sicrhau y gellir lleddfu pryderon gwirioneddol ac yn nodi ymhellach y gellir nodi rhagor o eithriadau ar ôl cyflwyno terfynau newydd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i adolygu effaith y terfynau newydd, grymuso awdurdodau lleol i wneud unrhyw eithriadau pellach a darparu cyllid digonol i awdurdodau lleol i hwyluso cyflwyno terfynau newydd.
Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
15 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8347 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022.
2. Yn nodi bod gostwng terfynau cyflymder lle mae pobl a cherbydau yn rhyngweithio fwyaf yn gallu achub bywydau.
3. Yn nodi bod eithriadau yn bosibl mewn lleoliadau y bernir eu bod yn briodol gan awdurdodau lleol.
4. Yn nodi pwysigrwydd cefnogaeth gymunedol i unrhyw newidiadau i'r terfyn cyflymder er mwyn sicrhau y gellir lleddfu pryderon gwirioneddol ac yn nodi ymhellach y gellir nodi rhagor o eithriadau ar ôl cyflwyno terfynau newydd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i adolygu effaith y terfynau newydd, grymuso awdurdodau lleol i wneud unrhyw eithriadau pellach a darparu cyllid digonol i awdurdodau lleol i hwyluso cyflwyno terfynau newydd.
Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
15 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Am 17.35, cododd Huw Irranca-Davies bwynt o drefn ynghylch y ffaith y cafodd ei enwi gan Aelod oedd yn siarad, ond y gwrthodwyd y cyfle iddo ymyrryd. Dywedodd y Dirprwy Lywydd mai mater i’r Aelod yw p’un a yw’n cymryd ymyrraeth, ac y gall Aelodau a enwyd ymateb os byddant yn rhoi eu hunain ar y rhestr siarad.
Am 18.25, cododd Gareth Davies bwynt o drefn ynghylch y defnydd o’r gair “shrill”. Dywedodd y Dirprwy Lywydd y byddai’n gwirio’r Cofnod.
9 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.33
Crynodeb o Bleidleisiau
10 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.38
NDM8340 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Dod â'r Byd i Gymru - Sut rydym yn rhyddhau potensial Cymru fel cyrchfan dwristaidd fyd-eang o bwys?
Daeth y cyfarfod i ben am 19.04
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 19 Medi 2023